Gwêl ni’r awron yn ymadael,
Bydd wrth raid
Inni’n blaid,
Arglwydd, paid â’n gadael.
N’ad in nabod dim, na’i garu,
Tra fôm byw,
Ond y gwiw
Groeshoeliedig Iesu.
Os gelynion ddaw i’n denu,
Yna’n ddwys
Bwrw’n pwys
Wnelom ar yr Iesu.
Hyfryd fore heb gaethiwed
Wawria draw,
Maes o law
Iesu ddaw i’n gwared.
Gwyn ei fyd sy heddiw’n canu,
‘Mhlith y llu
Sanctaidd fry,
Wedi llwyr orchfygu.
William Williams (1717-1791)
(Llawlyfr Moliant Newydd: 732)