Pennill 1
Wele nawr ddirgelwch ddaeth i ni
Seren fry yn t’wynnu ar wyryf yn glir
Cân angylion yn g’leuo’r nos
Gobaith ddaeth yng nghri un bach
Agorwch byrth yn awr
Cans heddiw ganwyd Crist
Corws
Gwnewch Iddo le, Gwnewch Iddo le
Boed i Dduw Gogoniant ddod i mewn
Pennill 2
Dad i ni, r‘addewid a ddaeth yn wir
Dyma’r un bu’r proffwydi yn addo i ni
Yn y t’wyllwch daeth golau gwiw
I’r newynog daeth geiriau byw
Mae’i deyrnas nawr gerllaw
I bawb a fynnai weld
Corws (X2)
Pennill 3
I galonnau prysur fel Bethlehem
Daw y gnoc, peidiwch dweud nad oes yna le
Drwy y crud, y groes a’r bedd
Y cawn weld ei gariad Ef
Nawr yn fyw ar orsedd Nef
Clod i’r Enw uwch bob un
Corws (X2)
Gwnewch Iddo Le
Prepare Him Room (Doug Fournier a Rebecca Elliott)
Cyfieithiad awdurdodedig Arwel E. Jones
© 2014 Sovereign Grace Praise; Sovereign Grace Worship (Gwein. Integrity Music Ltd)
Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.
PowerPoint