Gyda’r saint anturiais nesu
dan fy maich at allor Duw:
bwrdd i borthi’r tlawd, newynog,
bwrdd i nerthu’r egwan yw;
cefais yno megis gyffwrdd,
corff drylliedig Iesu glân,
yn y fan fe doddai ‘nghalon
fel y cwyr o flaen y tân.
O fy Iesu bendigedig,
golwg iawn ar waed dy groes
sydd yn toddi’r mawr galedwch
sy’n diffrwytho dyddiau f’oes;
gad, O gad im, dirion Arglwydd,
fyw a marw yn dy hedd;
bydd di oll yn oll i’m henaid
yma a thu draw i’r bedd.
NICANDER, 1809-74
(Caneuon Ffydd 654)
PowerPoint