Gyda’r saint anturiais nesu dan fy maich at allor Duw: bwrdd i borthi’r tlawd, newynog, bwrdd i nerthu’r egwan yw; cefais yno megis gyffwrdd, corff drylliedig Iesu glân, yn y fan fe doddai ‘nghalon fel y cwyr o flaen y tân. O fy Iesu bendigedig, golwg iawn ar waed dy groes sydd yn toddi’r mawr […]
Hoffi ‘rwyf dy lân breswylfa, Arglwydd, lle’r addewaist fod; nid oes drigfan debyg iddi mewn un man o dan y rhod. Teml yr Arglwydd sy dŷ gweddi, lle i alw arnat ti; derbyn dithau ein herfyniau pan weddïom yn dy dŷ. Hoffi ‘rwyf dy lân fedyddfan lle mae’r Ysbryd oddi fry yn bendithio’r gwan aelodau […]
Molwch Arglwydd nef y nefoedd, holl genhedloedd daear las, holl dylwythau’r byd a’r bobloedd, cenwch glod ei ryfedd ras: Haleliwia, molwch, molwch enw’r Iôn. Mawr yw serch ei gariad atom, mawr ei ryfedd ras di-lyth, ei gyfamod a’i wirionedd sydd heb ball yn para byth: Haleliwia, molwch, molwch enw’r Iôn. NICANDER (Morris Williams), 1809-74 (Caneuon Ffydd […]