logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Heb droi yn ôl

Pennill
Rwyf eisiau cerdded fel Ti
Rwyf eisiau siarad fel Ti
Gan edrych arnat Ti
Ildio fy mywyd fel Ti
Cymryd fy nghroes i fel Ti
Gan edrych arnat Ti

Rhag-Gorws
Heb droi yn ôl
Heb droi yn ôl

Corws
Mi benderfynais i ddilyn Iesu
Mi benderfynais ei ddilyn Ef
Y groes i’m harwain
Y byd o’m cefn i
Heb droi yn ôl

Pennill / Rhag-Gorws / Corws / Rhag-Gorws

Pont (X2)
Os rwy’n byw, rwy’n byw er dy fwyn
Os rwy’n marw, gwnaf er dy fwyn
Beth bynnag ddaw
Boed hyn yn wir
Rwy’n dilyn Ti
Rwy’n dilyn Ti

Corws

Heb droi yn ôl
No Turning Back (Casey Moore, Jason Ingram, Leeland Mooring a Steffany Gretzinger)
Cyfieithiad awdurdodedig gan Arwel E. Jones
Hawlfraint We Are TIM Music; Wonder Meadow Music; Casey Moore Publishing Designee; Integrity’s Praise! Music; The Devil Is A Liar! Publishing; (Gwein. Capitol CMG Publishing, Integrity Music Ltd). Mae’r rhan sy’n weddill yn ddigyswllt.

Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.

PowerPoint
  • Rhys Llwyd,
  • May 1, 2024