logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Iesu, cyfaill f’enaid i

Iesu, cyfaill f’enaid i,
gad im ffoi i’th fynwes gref
tra bo’r tonnau’n codi’n lli
a’r ystorm yn rhwygo’r nef;
cudd fi, Geidwad, oni ddaw
terfyn y tymhestloedd maith,
dwg fi’n iach i’r hafan draw,
derbyn fi ar ben y daith.

Noddfa arall nid oes un,
wrthyt glŷn fy enaid gwan;
paid â’m gadael, bydd dy hun
imi’n gysur ac yn rhan:
ti yw gwrthrych mawr fy ffydd,
ti yw ’nghymorth, neb ond ti;
cudd fy mhen digysgod, cudd
o dan nawdd dy adain di.

Llawnder gras sydd ynot ti,
gras i guddio ’mhechod oll;
yr iachusol ffrydiau’n lli
fo’n fy mhuro yn ddi-goll;
ffynnon bywyd ydwyt ti,
rho dy hunan imi nawr,
tardd o fewn fy nghalon i,
tardd i dragwyddoldeb mawr.

Iesu, cyfaill f’enaid i
Caneuon Ffydd 366
CHARLES WESLEY, 1707-88 cyf. D. TECWYN EVANS, 1876-1957
© Etifeddion D. Tecwyn Evans

Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.

PowerPoint
  • Rhys Llwyd,
  • May 1, 2024