Iesu, nid oes terfyn arnat,
mae cyflawnder maith dy ras
yn fwy helaeth, yn fwy dwfwn
ganwaith nag yw ‘mhechod cas:
fyth yn annwyl
meibion dynion mwy a’th gâr.
Mae angylion yn cael bywyd
yn dy ddwyfol nefol hedd,
ac yn sugno’u holl bleserau
oddi wrth olwg ar dy wedd;
byd o heddwch
yw cael aros yn dy ŵydd.
Ti faddeuaist fil o feiau
i’r pechadur gwaetha’i ryw;
Arglwydd, maddau eto i minnau
ar faddeuant ‘rwyf yn byw:
d’unig haeddiant
yw ‘ngorfoledd i a’m grym.
WILLIAM WILLIAMS, 1717-91
(Caneuon Ffydd 321; Y Llawlyfr Moliant Newydd: 455)
PowerPoint