Llais hyfryd rhad ras sy’n gweiddi, “Dihangfa!”
Yng nghlwyfau Mab Duw, bechadur, mae noddfa:
i olchi aflendid a phechod yn hollol
fe redodd ei waed yn ffrydiau iachusol.
Haleliwia i’r Oen bwrcasodd ein pardwn,
‘n ôl croesi’r Iorddonen drachefn ni a’i molwn.
Ar angau ac uffern cadd lawn fuddugoliaeth,
ysbeiliodd holl allu’r tywyllwch ar unwaith:
holl filwyr y groes, cânt ynddo dangnefedd,
fe’u harwain hwy’n sicir i berffaith orfoledd.
Haleliwia i’r Oen bwrcasodd ein pardwn,
‘n ôl croesi’r Iorddonen drachefn ni a’i molwn.
‘N ôl tirio yn iach i’r tawel anheddau
fe seiniwn ei glod ar euraid delynau;
trwy nefol ardaloedd fe’i molwn byth bythol
wrth rodio ar lan yr afon dragwyddol.
Haleliwia i’r Oen bwrcasodd ein pardwn,
‘n ôl croesi’r Iorddonen drachefn ni a’i molwn.
RICHARD BURDSALL, 1735-1824 (The voice of free grace cries, “Escape to the mountain!”) cyf. DAVID CHARLES, 1762-1834
(Caneuon Ffydd 530)
PowerPoint