Llais hyfryd rhad ras sy’n gweiddi, “Dihangfa!” Yng nghlwyfau Mab Duw, bechadur, mae noddfa: i olchi aflendid a phechod yn hollol fe redodd ei waed yn ffrydiau iachusol. Haleliwia i’r Oen bwrcasodd ein pardwn, ‘n ôl croesi’r Iorddonen drachefn ni a’i molwn. Ar angau ac uffern cadd lawn fuddugoliaeth, ysbeiliodd holl allu’r tywyllwch ar unwaith: […]