Pennill 1
Hon yw ein Llawen Gân
a ganwn nawr i Ti
Mae ‘nghalon innau’n llawn
o bopeth a wnei Di
Mae cri o gariad mawr
yn ffrydio’n ddwfn tu fewn i mi
Pont 1
Mae’th ryfeddodau
(yn) goleuo’r byd
Y mae dy roddion di
tu hwnt i bob dychymyg
Boed i’n lleisiau ddod yn un
Corws
Yn awr fe godwn lais
a daw’n geiriau ni
Mae’n moliant i Ti yn ddiddiwedd
Fe gana’r cread oll
ac fe unwn ni
mewn Llawen Gân i Ti
Pennill 2
Daw cri o ddiolch nawr
am dy fendithion Di
tu hwnt i’n geiriau ni
A heddiw a phob dydd
mae cri o gariad mawr
yn ffrydio’n ddwfn tu fewn i mi
Corws
Pont 1
Am byth yn ffyddlon
Am byth yn wir
Rwyt Ti’n rhoi gobaith
Os wnawn ni droi’n golygon ni
Boed i’n lleisiau ddod yn un
Corws
Outro
Dyma ein Llawen Gân
am gariad mawr
a gobaith cryf
i ni bob un
Corws 2
Pan ddaw’r gân i ben
a daw dy alwad Di
Pryd bynnag ddaw y dydd
I ’ngalw tua thre’
Tua thre’
Outro 2
Dyma’n lleisiau
O – O (O – O)
Ie – Ie (Ie – Ie)
O – O (O – O)
Ie – Ie (Ie – Ie)
Canwn nawr, canwn nawr
ein llawen gân
(Canwn nawr, canwn nawr ein Llawen Gân)
Dyma nawr, dyma nawr ein Llawen Gân (Dyma nawr, dyma nawr ein Llawen Gân)
Llawen Gân
Song of Joy (Doug Horley a Mark Read)
Cyfieithiad awdurdodedig Arwel E Jones
Hawlfraint © ac yn y cyfieithiad hwn Song Solutions Publishing
(Gwein. www.songsolutions.org)
Defnyddir trwy ganiatâd.
CCLI 7251796
Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.
PowerPoint