Mae fy meiau fel mynyddoedd
Amlach hefyd yw eu rhi’
Nag yw gwlith y bore wawrddydd, Nag yw sêr y nefoedd fry:
Gwaed fy Arglwydd
Sydd yn abl i olchi ‘mai.
Golchi’r ddu gydwybod aflan
Lawer gwynnach eira mân;
Gwneud y brwnt, gan’ waith ddifwynodd
Yn y domen, fel y gwlân:
Pwy all fesur
Lled a dyfnder maith ei ras?
Ei riddfannau ar y croesbren
Oedd yn pwyso beiau’r byd;
Poenau pechod oedd ofnadwy,
Poenau f’Arglwydd oedd fwy drud;
‘N awr mae cariad
Yn concwerio dwyfol lid.
William Williams, Pantycelyn
PowerPoint