Mae fy nghalon am ehedeg
unwaith eto i fyny fry
i gael profi’r hen gymdeithas
gynt fu rhyngof a thydi;
mi a grwydrais anial garw,
heb un gradd o olau’r dydd;
un wreichionen fach o’th gariad
wna fy rhwymau oll yn rhydd.
Pe bai’r holl gystuddiau mwya’n
gwasgu ar fy enaid gwan,
a’r gelynion oll yn rhwystro’r
nefol dân i godi i’r lan,
pan ddechreuo nid oes derfyn;
cadarn natur cariad yw
sydd yn distaw fynd â’m henaid
ohono’i hun i fynwes Duw.
Mae fy nghalon yn ‘sgrifennu
ac yn adrodd wrthi’i hun
enw hyfryd a rhinweddol
Duw yn gwisgo natur dyn:
iachawdwriaeth, iachawdwriaeth,
iachawdwriaeth werthfawr iawn
ydyw enw fy Ngwaredwr
gennyf fore a phrynhawn.
WILLIAM WILLIAMS, 1717-91
(Caneuon Ffydd 196)
PowerPoint