Mae harmonïau’r nefol gân
O flaen ei orsedd mad.
Can mil o engyl seinia’n un
Mewn côr o fawl i’r Tad.
Mwy disglair yw dy olau pur
Na’r sêr a’r lloer a’r haul;
Dihafal yw Creawdwr byd
Ac Ef yw’n cadarn sail.
Ni saif dinasoedd ‘ddaear hon
Am dragwyddoldeb hir,
Ond wrth gynteddau perlog Nef
Bydd croeso i mi’n wir.
Tu hwnt i ddadwrdd byd a’i boen
Daw heddwch gorsedd Duw;
Nid oes ar ddaear gartref gwell
Ein noddfa bythol yw.
‘Does Frenin tebyg: ‘Duw yn ddyn’
A ildiodd harddwch Nef
Yn aberth dros golledig rai –
Daeth bywyd trwyddo Ef.
Digymar ras a chariad rhad
Nid hawdd amgyffred ef.
‘Does neb yn debyg i’n Duw ni
Greawdwr dae’r a Nef.
(Grym Mawl 2: 103)
A Plass, Phil Baggaley, I Blythe a D Clifton, o ‘City of Gold‘: No song on earth,
Cyfieithiad Awdurdodedig: Natalie Drury
Hawlfraint © 1997 Gold Records. Cyhoeddwyd gan Little Room Music a gweinyddir gan I.Q. Music.