Mae lluoedd maith ymlaen,
‘N awr o’u carcharau’n rhydd,
A gorfoleddu maent
Oll wedi cario’r dydd:
I’r lan, i’r lan diangasant hwy,
Yn ôl eu traed y sangwn mwy.
Cawn weld yr addfwyn Oen,
Fu farw ar y Bryn,
Yn medi ffrwyth ei boen
Yn hyfryd y pryd hyn:
Bydd myrdd heb rif yn canu ‘nghyd
I’r Hwn fu farw dros y byd.
Ni chollwyd gwaed y Groes
Erioed am ddim i’r llawr,
Na dioddef angau loes
Heb ryw ddibenion mawr;
A dyma oedd ei amcan Ef-
Fy nwyn o’r byd i Deyrnas nef.
William Williams, Pantycelyn
(Y Llawlyfr Moliant Newydd: 271)
PowerPoint