Pennill 1
O’r uchelder sydd fry i ddyfnderoedd y môr
Mae’r cread yn dangos d’ogoniant Di
Yn mhob persawr a lliw dy dymhorau i gyd
Mae pob cr’adur unigryw yn canu ei gân.
Oll gan ddatgan
Corws 1
Mae tu hwnt i mi, yn rhy fawr i mi
Rhoddaist y sêr yn y nefoedd
A’u henwi i gyd
Rwyt Ti’n rhyfeddol Dduw
Rhy gryf i mi, rhy wyllt i mi
Syrthiwn o’th flaen Di yn isel
A datgan yn glir
Rwyt Ti’n rhyfeddol Dduw
Pennill 2
Pwy osododd gyfeiriad a llwybrau y mellt
A pwy welodd pob storfa o eira uwchben
Pwy ddychmygodd yr haul a rhoi pwrpas i’w fod
Ac sydd eto’n ei guddio yn oerfel y nos
S’neb yn dirnad
Corws 1
Byrdwn
Rwyt Ti’n rhyfeddol Dduw
Corws 1
Corws 2
Mae tu hwnt i mi, yn rhy fawr i mi
Rhoddaist y sêr yn y nefoedd
A’u henwi i gyd
Rwyt Ti’n rhyfeddol Dduw
Digyffelyb wyt Digyfnewid wyt
Ti’n gweld fy nghalon i gyd
A fy ngharu o hyd
Rwyt Ti’n rhyfeddol Dduw
Diweddglo
Ti’n gweld fy nghalon i gyd
A fy ngharu o hyd
Rwyt Ti’n rhyfeddol Dduw
(AIL-ADRODD)
Ti’n gweld fy nghalon i gyd
A fy ngharu o hyd
Rwyt Ti’n rhyfeddol Dduw
Mae Tu Hwnt i Mi
Indescribable (Jesse Reeves, Laura Story)
Cyfieithiad awdurdodedig Arwel E. Jones
© Laura Story (Gwein. gan Capitol CMG Publishing)
sixsteps Music (Gwein. gan Capitol CMG Publishing)
worshiptogether.com songs (Gwein. gan Capitol CMG Publishing)
Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.
PowerPoint