Mae’r orsedd fawr yn awr yn rhydd,
gwrandewir llais y gwan;
wel cyfod bellach, f’enaid prudd,
anadla tua’r lan.
Wel anfon eirchion amal ri’
i mewn i byrth y nef;
gwrandewir pob amddifad gri
yn union ganddo ef.
Myfi anturia’ nawr ymlaen
heb alwad is y ne’
ond bod perffeithrwydd mawr y groes
yn ateb yn fy lle.
Calfaria fryn yw’r unig sail
adeilaf arno mwy,
a gwraidd fy nghysur fyth gaiff fod
mewn dwyfol, farwol glwy’.
WILLIAM WILLIAMS, 1717-91
(Caneuon Ffydd 07; Y Llawlyfr Moliant Newydd: 82)