logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Mawl fo i’r Arglwydd, sy’n Frenin gogoniant a mawredd

Mawl fo i’r Arglwydd,
sy’n Frenin gogoniant a mawredd:
clod i’r Goruchaf,
a ddyry i’m henaid orfoledd:
tyred â’th gân,
salmau, telynau yn lân,
seinier ei fawl yn ddiddiwedd.

Mawl fo i’r Arglwydd,
Penllywydd rhyfeddol pedryfan:
noddfa dragwyddol
ei adain sydd drosot yn llydan:
cadarn yw’r Iôr,
ynddo i’th gynnal mae stôr,
amlwg i’th olwg yw’r cyfan.

Mawl fo i’r Arglwydd,
bendithia dy ran yn dragywydd:
tywallt o’r nefoedd
mae ffrydiau y cariad ni dderfydd:
enaid, erglyw!
gymaint yw gallu dy Dduw,
cariad hyd fyth a’th gyferfydd.

Mawl fo i’r Arglwydd,
a’r cwbwl sydd ynof yn ennyn:
ef yw goleuni
dy enaid bob dydd sy’n dy ddilyn:
holl lwythau’r byd,
cenwch yn llafar ynghyd:
moler hyd oesoedd diderfyn!

Mawl fo i’r Arglwydd, sy’n Frenin gogoniant a mawredd
Caneuon Ffydd 223
JOACHIM NEANDER, 1650-80
cyf. J. D. VERNON LEWIS, 1879-1970
© J. V. Lewis. Defnyddiwyd trwy ganiatâd

Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.

PowerPoint
  • Rhys Llwyd,
  • May 1, 2024