Pennill 1
Megis golau gwan
cannwyll yn ein twyllwch ni
bythol olau Duw
ddaw trwy’r baban gwan
Cytgan
Emaniwel, Haleliwia,
tyrd i’n hachub, Haleliwia.
Haleliwia.
Pennill 2
Sêr ac engyl gân
tra bo’r byd mewn trwmgwsg hir;
all gwreichionen fach
roi y byd ar dân?
Cytgan
Pennill 3
Gloywai’i gwawl yn lân
yn ein byw, tania’r Ysbryd
wrth i’n gyffwrdd fflam
wiw ei sanctaidd dân
Cytgan
Megis Golau Gwan
The Candle Song (Graham Kendrick)
Cyfieithiad awdurdodedig Eirian Dafydd
© 1988 Make Way Music (Gwein. Make Way Music Limited)
Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.
PowerPoint