Mor hawddgar yw dy bebyll Di, O! Dduw,
Fy enaid flysia am fy Mhrynwr byw,
Mae hiraeth ar fy nghnawd a’m calon i
Am wir dangnefedd dy gynteddau Di.
Aderyn llwyd y to a gafodd dŷ,
A’r wennol hithau at dy allor dry;
Gwyn fyd preswylwyr dy gynteddau glân,
Dy foliant fyddo’n wastad yn eu cân.
Dewiswn gadw drws yn nhŷ fy Nuw,
Mil gwell na phabell annuwioldeb yw,
Cans haul a tharian yw yr Iôr i mi
A’i fawr drugaredd Ef a’m cynnal i.
Dewi Jones Defnyddiwyd drwy ganiatâd.
(Ar y dôn Bron Rhiwel, M19/10.10.10.10 W. Llewelyn Edwards)
PowerPoint