Nefol Dad, mae eto’n nosi,
gwrando lef ein hwyrol weddi,
nid yw’r nos yn nos i ti;
rhag ein blino gan ein hofnau,
rhag pob niwed i’n heneidiau,
yn dy hedd, O cadw ni.
Cyn i’r caddug gau amdanom
taena d’adain dyner drosom,
gyda thi tawelwch sydd;
yn dy gariad mae ymgeledd,
yn dy fynwes mae tangnefedd
wedi holl flinderau’r dydd.
Fel defnynnau’r gwlith ar flodau
O disgynned arnom ninnau
fendith dawel nefol fyd;
caea di ein llygaid heno,
wedi maddau ac anghofio
anwireddau’n hoes i gyd.
GEORGE RAWSON, 1807-89, efel. ELFED, 1860-1953
(Caneuon Ffydd 44)