Mae’r gwynt yn craffu ar bob ystum o dy law
Tonnau ofn yn cwympo wrth Dy air
Mi wn, yfory, pan ddaw’r pwysau arnaf fi
Byddi di yn f’achub i drachefn
O’r fath nerthol Dduw, o’r fath nerthol Dduw wyt Ti
O’r fath nerthol Dduw, o’r fath nerthol Dduw wyt Ti
Yma’n dy gwmni, ni fydd gorsedd arall nawr
(Mae) ’nghalon i yn eiddot Ti yn llwyr
Mae cân y nefoedd a fy enaid yn gytûn
Iesu Grist, yr enw uwch pob un
O’r fath nerthol Dduw, o’r fath nerthol Dduw wyt Ti
O’r fath nerthol Dduw, o’r fath nerthol Dduw wyt Ti
O’r fath nerthol Dduw, o’r fath nerthol Dduw wyt Ti
O’r fath nerthol Dduw, o’r fath nerthol Dduw wyt Ti
Moliant, moliant, Haleliwia sy’n ddi-ddiwedd
O Iôr, fy Nuw, mor fawr wyt Ti
Anrhydedd, gallu, Haleliwia unwaith eto
Arglwydd, fy Nuw, mor fawr wyt Ti
Moliant, moliant, Haleliwia sy’n ddi-ddiwedd
O Iôr, fy Nuw, mor fawr wyt Ti
Anrhydedd, gallu, Haleliwia unwaith eto
Arglwydd, fy Nuw, mor fawr wyt Ti
O’r fath nerthol Dduw, o’r fath nerthol Dduw wyt Ti
Nerthol Dduw
Mighty God (Another Hallelujah)
Cyfieithiad awdurdodedig Arwel E. Jones
© Music by Elevation Worship Publishing (Gwein. gan Essential Music Publishing LLC)
CCLI # 7175567
Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.
PowerPoint