Ni throf fy ŵyneb byth yn ôl
i ‘mofyn pleser gau,
ond mi a gerddaf tua’r wlad
sy a’i phleser yn parhau.
Mae holl deganau’r ddaear hon
fu gynt yn fawr eu grym,
yng ngŵydd fy Iesu’n gwywo i gyd
ac yn diflannu’n ddim.
Y mae aroglau pur ei ras
fel peraroglau’r nef,
ac nid oes cymar is yr haul
yn unlle iddo ef.
Fe dorrwyd rhyngof fi a’m chwant,
daeth ar mhleser drai,
ond hapusrwydd perffaith yw
dy garu a’th fwynhau.
WILLIAM WILLIAMS, 1717-91
(Caneuon Ffydd 684; Y Llawlyfr Moliant Newydd: 77)
PowerPoint