O Arglwydd Dduw, y Brenin mawr,
dy fendith dyro inni nawr:
rho inni’r fraint ar hyn o bryd
yn d’Ysbryd i’th addoli ‘nghyd.
Yn ôl d’addewid, Iesu cu,
i fod lle byddo dau neu dri,
bydd yn ein mysg ar hyn o bryd,
tra bo dy bobol yma ‘nghyd.
‘Rwyt ti, O Dduw, ymhob rhyw fan
yn codi’r gweiniaid oll i’r lan;
rho inni wedd dy ŵyneb llon,
bydd yn ein mysg yr oedfa hon.
JOHN THOMAS, 1730-1804?
(Caneuon Ffydd 16)