O Arglwydd, dywed im pa lun
y gallaf gario ‘meichiau f’hun:
mawr ydynt hwy, a minnau’n wan;
pa fodd y coda’ i’r lleia’ i’r lan?
D’ysgwyddau di ddeil feichiau mawr,
mae’n hongian arnynt nef a llawr;
am hyn fy holl ofidiau i
gaiff bwyso’n gyfan arnat ti.
Mae’r holl greadigaeth yn dy law,
ti sy’n ei threfnu yma a thraw;
i ddatgan dy anfeidrol glod
mae pob rhyw drefn ag sydd yn bod.
O nertha f’enaid gwan ei ffydd
i ‘morffwys arnat ti bob dydd,
heb flino ‘nghylch rhyw amser draw
yr hwn ond odid byth ni ddaw.
WILLIAM WILLIAMS, 1717-91
(Caneuon Ffydd 689)
PowerPoint