O! Cenwch fawl i Dduw
Tra gweddus yw y gwaith,
Am ei drugaredd ryfedd rad,
Pob llwyth a gwlad ac iaith.
Pan ddwg ei blant ynghyd
Yn hyfryd fe’u iachâ;
Gan rwymo’r galon ysig friw;
Mab Duw sydd Feddyg da.
O! Seion, canmol di
Y Duw sy’n rhoddi hedd,
A phob cysuron it ynghyd,
Nes mynd drwy’r byd i’r bedd.
I’r Drindod heb wahân
Rhown fawl ar gân i gyd;
Boed Haleliwia ym mhob man
Drwy bedwar ban y byd.
Thomas Williams (Eos Gwynfa) – penillion 1-3; Seren Gomer, 1824 – pennill 4
(Y Llawlyfr Moliant Newydd: 2)