Pennill 1
Cymrwn dy fara, cymryd gwin
Ac fe gofiwn i ti’n hachub ni
’R un glân yn colli’i werthfawr waed
A llifodd cariad lawr o’i goron Ef
Cytgan
O dan Galfaria, chwalwyd ein maglau
Angau a drechwyd, rym ni yn rhydd
O dan Galfaria, mae’r gwyll yn crynu
Fe safwn ni a dweud ein bod yn rhydd
Pennill 2
Fe safwn ni o dan y groes
A syllu wnawn ar ei ogoniant ef
Meseia laddwyd godwyd fry
A’i fuddugoliaeth Ef yn glir i’r byd
Cytgan
Pont (X2)
Does ’nunlle’n uwch nag wrth dro-ed y groes
Trechwyd fy mhechod a’m gwarth gan ei glwyfau Ef
Fy Iesu, fy mywyd
Rwy’n ildio i neb ond Ti!
Cytgan
Calvary’s Shadow, Ryan Williams. Cyfieithiad awdurdodedig Arwel E Jones
© 2017 BEC Worship (Gwein. gan Song Solutions) / River Valley Church Music (Gwein. gan Song Solutions www.songsolutions.org)
CCLI # 7157952
Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.
PowerPoint