O Dduw a Llywydd oesau’r llawr,
Preswylydd tragwyddoldeb mawr,
ein ffordd a dreiglwn arnat ti:
y flwyddyn hon, O arwain ni.
Mae yn dy fendith di bob pryd
ddigon ar gyfer eisiau’r byd;
drwy’r niwl a’r haul, drwy’r tân a’r don,
bendithia ni y flwyddyn hon.
Na ad, O Dduw, i droeon oes
wneud inni gwyno dan y groes;
er popeth ddaw, o ddydd i ddydd
y flwyddyn hon cryfha ein ffydd.
Rho fwy o gariad at dy waith,
rho fwy o sêl bob cam o’r daith;
ar bethau’r tŷ rho fwy o flas,
y flwyddyn hon rho ras am ras.
ELFED, 1860-1953
(Caneuon Ffydd 70)