O gariad pur, rhown iti glod,
Creawdwr rhyfeddodau’r rhod,
er maint gwrthryfel dynol-ryw
drwy dy drugaredd fe gawn fyw:
O cymer ni yn awr bob un
i’n creu o newydd ar dy lun.
Dy gread maith mewn gwewyr sydd
yn disgwyl gwawr y newydd ddydd
pan fyddo cariad wrth y llyw
a phawb mewn cariad yn cyd-fyw;
drwy wyrth dy ras, O gwna ni’n un
a’n creu o newydd ar dy lun.
Cyflawnder pob cyflawnder yw
dy gariad hael, sy’n ystyr byw;
mae grym dy groes a’th aberth drud
yn obaith cymod i’r holl fyd;
O achub ni, ryfeddol Un,
i fywyd newydd ar dy lun.
TUDOR DAVIES © Gwyn T. Davies. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.
(Caneuon Ffydd: 775)
PowerPoint