O Iesu, maddau fod y drws ynghau
a thithau’n curo, curo dan dristáu:
fy nghalon ddrwg a roddodd iti glwyf,
gan g’wilydd ŵyneb methu agor ‘rwyf.
Ti biau’r tŷ; dy eiddo yw, mi wn;
ond calon falch sydd am feddiannu hwn:
mae’n cadw’i Harglwydd o dan oerni’r ne’,
gelynion i ti sy’n y tŷ’n cael lle.
Ai cilio ‘rwyt? O aros, Iesu mawr;
mi godaf, ac agoraf iti nawr:
ni chaiff fy nghalon ddrwg na ch’wilydd gwedd
rwystro fy unig obaith byth am hedd.
O torred gwawr maddeuant oddi fry,
yr awel sanctaidd gerddo drwy y tŷ!
Mae’r drws yn ddatglo, dangos im dy wedd –
cael dod yn debyg iti fydd y wledd.
ELFED, 1860-1953
(Caneuon Ffydd 753)
PowerPoint