logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O Luniwr y ddaear a harddwch ei thir

Yr Argyfwng Hinsawdd

O Luniwr y ddaear a harddwch ei thir
a chynnyrch beunyddiol ei holl erwau ir,
dy gread a’n geilw i newid ein ffyrdd
a byw mewn ufudd-dod i ddeddfau byd gwyrdd.

Wrth weled fforestydd yn wenfflam dros ddaer,
allyriant ein bywyd yn llygru yr aer,
a chnydau yn crino, cydnabod a wnawn
i’n fethu gofalu am d’eiddo yn iawn.

Ein chwant ni’r cyfoethog sy’n llethu dy fyd
ac ochain yn uchel mae’r cread i gyd.
Ni allwn ond gwrido ac edifarhau
gan ddeisyf maddeuant am beri’r fath wae.

A’n daear ar drengi, a’n sbwriel yn staen
dros donnau’r cefnforoedd, ymbiliwn o’th flaen
mewn gweddi am gymorth wrth inni ddyheu
am adfer dy gread i lendid ei greu.

O Luniwr y ddaear a harddwch ei thir
Eirian Dafydd
Tôn: Joanna 440 C.Ff.
Mesur: 11.11.11.11

e
Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.

PowerPoint
  • Rhys Llwyd,
  • May 1, 2024