Pennill 1
O Wele galon Tad
(Y) dirgelwch y mae’n tywallt arnom ni
Fel cri y dwfn i’r dwfn
O mor daer ei awydd trosom
Mae pethau’r llawr o’i flaen
Fel cannwyll ger yr haul
Dad sy’n ddi-ffael
S’dim fel ei gariad Ef
Pennill 2
O Wele’i Sanctaidd Fab
Y Llew a’r Oen a roddwyd er ein mwyn
Y Gair a ddaeth yn ddyn
I’m henaid gael Gwaredwr
Gwrthodwyd Ef er lles holl ddynolryw
Achubiaeth sydd yn ei waed
Iesu, Feseia
Y cyfiawn drosom ni
Nid dyma’r diwedd
Cyfodi a wnaeth Ef
Corws (X2)
Cân f’enaid, cân
Cân f’enaid, cân
Mor fawr yw’th gariad
Mor fawr yw’th gariad
Cân f’enaid, cân
Pennill 3
O Wele ‘nghyfaill i
Yr Ysbryd sydd yn tanio ynof fi
Fy nghymorth hawdd i’w gael
Yn dod â’r gwir pan rwyf yn methu
Goleua ‘nghalon wan ac arwain fi
Nes i f’amser ddod i ben
O Ysbryd Sanctaidd
Doed dy deyrnas ynof fi
O Ysbryd Sanctaidd
Gwnaed dy waith Di ynof Fi
Corws (X3)
Diweddglo
Cân f’enaid, cân, fy Nuw
Yr un a fu ac sy’ eto’i ddod
Darpara lwybr
Nes gwneud ei waith Ef ar y llawr
Mae E’ yn dod ar g’mylau’r nef
Dyrchafwn lef
Codir gorsedd gyda’n mawl
O wele’n Iôr yn mynd â ni tua thref
O Wele (Cân F’enaid Cân)
Behold (Then Sings my Soul) (Joel Houston)
Cyfieithiad awdurdodedig Arwel E Jones
Hawlfraint © (Wedi ei hysbrydoli gan “Mor fawr wyt Ti!”, trwy garedigrwydd The Stuart Hine Trust) 2016 Hillsong Music Publishing Australia
(Gwein. Hillsong Music Publishing UK)
Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.
PowerPoint