O Ysbryd Glân y bywiol Dduw,
yn holl helaethrwydd mawr dy ras,
’mhle bynnag troediodd dynol ryw
ymwêl â’n hil syrthiedig, fas.
Tafodau tân a ch’lonnau cu
rho i’n gyhoeddi’r Cymod rhad,
eneiniad, grym a sêl ’ddi fry,
bob tro y clywir Gair y Tad.
Try’r fagddu’n llewyrch wrth it ddod
a threfn o ddryswch, doed yn glir;
nertha eneidiau gwan, di-nod:
trugaredd, treched ddicter sur.
Glân Ysbryd Nef, o parato’
y ddaear oll i gwrdd â’i Duw;
anadla ar led – yr Awel rho,
nes troir calonnau marw’n fyw.
Bedyddia’r llwythau; ar bob tu
cofnoder gorchest fawr y Groes;
dyrchafer enw Iesu cu
nes delo’n Iôr pob llwyth ac oes!
O dragwyddoldeb mynnodd Duw
amlygu’i Achubiaeth fawr i’r byd;
fel trwot Ti, doed cariad Tad
a choron ing Ei Fab ynghyd.
O Ysbryd Glân y bywiol Dduw
O Spirit of the living God (James Montgomery, 1771-1854)
Cyfieithiad Linda Lockley ac Anne Mason Davies
Allan o hawlfraint
Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.
PowerPoint