logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O’n blaen mae Duw yn myned

O’n blaen mae Duw yn myned
Â’i hyfryd bresenoldeb;
O! ’r hyder ei addewid rydd
Ac nid unig fyddwn byth.

Hyd lwybrau, dan gysgodion
Nid ofnwn am yfory
Ar hyd bob cam, ffyddlondeb Iôr
Fydd yn llewyrch ar ein ffordd

O’n blaen mae Duw yn myned,
Duw’r Lluoedd sy’n ein harbed;
Canmolwch Ef – ein harwain wna;
Cans ei ras â’n dwyn i dref.

Os drygau ddônt i’n herbyn
Daw’r nefoedd i’n hamddiffyn
Pyrth uffern, ni orchfygant byth
Eiddo Duw yw’r frwydr hon.

O’n blaen mae Duw yn myned,
Duw’r Lluoedd sy’n ein harbed;
Canmolwch Ef – ein harwain wna;
Cans ei ras â’n dwyn i dref.

Awn bellach gyda’th gwmni
Tua’r nef â Thi o’n blaen ni,
Lle nad oes poen na dagrau mwy
A phob anadl yn rhoi clod.

Boed i bob anadl roddi clod.

O’n blaen mae Duw yn myned,
Duw’r Lluoedd sy’n ein harbed;
Canmolwch Ef – ein harwain wna;
Cans ei ras â’n dwyn i dref.

O’n blaen mae Duw yn myned,
Duw’r Lluoedd sy’n ein harbed;
Canmolwch Ef – ein harwain wna;
Cans ei ras â’n dwyn i dref.
Cans ei ras â’n dwyn i dref.

O’n blaen mae Duw yn myned
Our God will go before us (Matt Boswell, Keith Getty, Matt Papa)
Cyfieithiad awdurdodedig Dafydd M Job
© 2023 Getty Music Hymns and Songs: Getty Music Publishing; Love Your Enemies Publishing; Messenger Hymns (Gwein. gan Capitol CMG Publishing)

Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.

PowerPoint
  • Rhys Llwyd,
  • November 6, 2024