Os caf yr Iesu’n rhan
o dan bob croes,
a rhodio yn ei hedd
hyd ddiwedd oes,
anghofiaf boenau’r daith,
pob gwaith fydd yn fwynhad;
caf brofi’r hedd sydd fry
yn nhŷ fy Nhad.
Ond cael yr Iesu’n rhan
daw’r cyfan im;
pob bendith ynddo gaf,
ni chollaf ddim:
ni raid im fynd ar ôl
mwynhad daearol fyd,
cans yn ei gariad ef
mae nef o hyd.
Lle bynnag caf fi ef
fy nghartref yw;
a deuaf drwy ei ras
i ddinas Duw:
fy mrodyr yn yr ŵyl
a fydd ei annwyl rai;
byth, byth ni welir un
o’r teulu’n llai.
NOVALIS, 1772-1801, efel. ELFED, 1860-1953
(Caneuon Ffydd 361)
PowerPoint