Pennill 1
Pa gariad Dduw, a’th ddenodd di i lawr
Pa frenin fynnai’i eni ar y llawr
Ac eto daethost i le’r gwyll a’r braw
A chysgu dan y sêr a wnaed â’th law
Pennill 2
Pa gariad Dduw anfonodd Fab y Dyn
I dderbyn gwarth, yn wrthodedig un
I ti gael deall am fy ngwendid i
A dod yn graig cyfiawnder gwir i mi
Corws
Dy gariad Dad a ddaeth fel y lli’
Agorwyd pyrth y nef i dywallt arnom ni
O canwn glod i’r Brenin ddaeth i’r byd
Â’i gariad fel nerthol li’
Pennill 3
Pa gariad Dduw, a’th gadwodd ar y groes
I gario’r ddyled greais drwy fy oes
Gweld Mab y Nef yn gadael cwmni’r Tad
Iachawr waedodd er ein mwyn yn rhad
Corws
Pennill 4
Pa gariad Dduw, mor raslon ac mor gryf
Yn ddigon cryf i frwydro drosof i
I fynd drwy uffern ac i lawr i’r bedd
A ‘nghodi i gael gweld Dy hyfryd wedd
A ‘nghodi i gael gweld Dy hyfryd wedd
Pa gariad Dduw
What love, my God
Jonny Robinson, Michael Farren, Rich Thompson
Cyfieithiad awdurdodedig: Arwel E. Jones
© 2016 CityAlight Music (Gwein. gan Integrity Music Ltd)
Farren Love And War Publishing (Gwein. gan Integrity Music Ltd)
Integrity’s Alleluia! Music (Gwein. gan Integrity Music Ltd)
Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.
PowerPoint