Popeth a wnaeth ein Duw a’n Rhi,
cyfoded lef i’n canlyn ni,
i’r Arglwydd, Haleliwia;
ti, danbaid haul, oleuni gwiw,
di, arian loer o dirion liw,
i’r Arglwydd, i’r Arglwydd, Haleliwia,
Haleliwia, Haleliwia!
Fwyn ddaear-fam o ddydd i ddydd
i ni sy’n rhoi bendithion rhydd,
i’r Arglwydd, Halelwia;
dy ffrwyth, dy flodau o bob rhyw,
datganant hwy ogoniant Duw,
i’r Arglwydd, i’r Arglwydd, Haleliwia,
Haleliwia, Haleliwia!
A doed pob dyn o fron ddi-frad
i ddwyn ei ran gan faddau’n rhad,
i’r Arglwydd, Haleliwia;
a wypo boen a galar dwys,
molianned Dduw, rhoed arno’i bwys,
i’r Arglwydd, i’r Arglwydd, Haleliwia,
Haleliwia, Haleliwia!
Popeth a wnaed gan Luniwr byd
i’w foli doed ag isel fryd,
i’r Arglwydd, Haleliwia;
boed mawl i’r Tad a’r Mab ei hun,
a mawl i’r Ysbryd, Dri yn Un,
i’r Arglwydd, i’r Arglwydd, Haleliwia,
Haleliwia, Haleliwia!
FFRANSIS O ASSISI, 1181?-1226 efel. T. GWYNN JONES, 1871-1949 Hawlfraint © ystad ac etifeddion T. Gwynn Jones
Defnyddiwyd drwy ganiatâd.
(Caneuon Ffydd: 134)
PowerPoint