Pwy all beidio canu
moliant iddo ef?
Y mae Brenin Seion
wedi dod i’r dref.
Moliant, moliant,
rhaid i blant roi moliant,
moliant, moliant iddo ef,
moliant iddo ef, moliant iddo ef.
Taenu wnawn ein gwisgoedd
gorau ar y ffyrdd,
taflwn ar ei lwybrau
gangau’r palmwydd gwyrdd.
Ar ei ebol asyn
O mor fwyn y daw;
fe all plentyn bychan
gydio yn ei law.
Gydag ef i Salem
awn yn llon ac iach:
y mae Iesu’n ennill
calon plentyn bach.
NANTLAIS, 1874-1959 (© Yr Athro S. Nantlais Williams. Defnyddir drwy ganiatâd.)
(Caneuon Ffydd 391)
PowerPoint