logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Pwy wyf fi

Pennill 1
Pwy wyf fi fod yr hwn sy’n Arglwydd byd
Yn gwybod f’enw i
Yn teimlo pan rwy’n brudd
Pwy wyf fi fod y Seren Fore glir
‘N goleuo’r ffordd ymlaen
I fy nghalon grwydrol i

Rhag-gytgan
Nid oherwydd pwy wyf fi
Ond oherwydd beth wnest ti
Nid oherwydd beth wnes i
Ond oherwydd pwy wyt ti

Cytgan
Rwyf fi yn flodyn sy’n diflannu
Yma rwyf ond dim yfory
Fel ton ym merw’r cefnfor
Neu darth o flaen y gwynt
Pan rwy’n galw rwyt yn gwrando
Ti’n fy nal i pan rwy’n syrthio
Dwedaist wrthyf pwy wyf fi
D’eiddo di

Pennill 2
Pwy wyf fi fod yr un a wêl fy mai
Yn rhoi ei gariad ef
A’m codi ar fy nhraed
Pwy wyf fi fod tawelwr mawr y lli
Yn galw trwy y glaw
A lleddfu’r storm i mi

Pwy wyf fi
Who am I (Mark Hall)
Cyfieithiad awdurdodedig Delyth Wyn Davies
© 2003 Be Essential Songs (Gwein. gan Essential Music Publishing LLC)
My Refuge Music (Gwein. gan Essential Music Publishing LLC)

Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.

PowerPoint
  • Rhys Llwyd,
  • May 1, 2024