Pwy yw hwn? Mae’r gwynt a’r moroedd
Yn adnabod tôn ei lais,
A rhyferthwy’r blin dymhestloedd
Sy’n tawelu ar ei gais.
O! llefared Iesu eto
I dawelu ofnau’r fron;
Doed tangnefedd llawn i drigo
Yn y galon euog hon.
Pwy yw hwn? Yr addfwyn tyner,
Cyfaill yr anghenus gwael;
Ni bu neb dan faich gorthrymder
Yn ei geisio heb ei gael.
Torrodd lwybyr iddo’i hunan
Drwy ein byd didostur ni;
Dim ond cariad dwyfol anian
Fedrai’r ffordd i Galfari.
Cernyw (1843-1937)
PowerPoint