Pwy yw hwn sy’n rhodio’r tonnau
drwy’r ystorom ar ei hynt?
Dyma Lywydd y dyfnderau,
dyma Arglwydd mawr y gwynt.
Er i oriau’r nos ei gadw
ar y mynydd gyda’r Iôr,
gŵyr am deulu’r tywydd garw
a’i rai annwyl ar y môr.
Os yw gwedd ei ymddangosiad
yn brawychu’r gwan eu ffydd,
mae ei lais fel diliau cariad,
mae ei wên fel bore ddydd.
Llywodraethwr mawr y moroedd
a gostegwr ofnau’r fron
edrych eto i lawr o’th nefoedd,
gwel yr eiddot ar y don.
NANTLAIS, 1874-1959 (© Yr Athro S. Nantlais Williams. Defnyddir drwy ganiatâd.)
(Caneuon Ffydd 377)
PowerPoint