Rhain ydyw dyddiau Elias,
Yn datgan yn glir Air yr Iôr;
A rhain ydyw dyddiau’th was ffyddlon, Moses,
Yn adfer cyfiawnder i’r tir.
Ac er mai dydd prawf welwn heddiw,
Dydd newyn a th’wyllwch a chledd,
Nyni ydyw’r llef o’r diffaethwch; Galwn:
‘O, paratowch lwybrau yr Iôr.’
Ac wele daw ar gymylau’r nef,
Disglair fel yr haul, ‘rutgorn clir a gân;
Llefwch oll, hon yw blwyddyn Jiwbili,
Daw o Seion waredigaeth lân.
Rhain ydyw dyddiau Eseciel,
Lle gwisgir yr esgyrn â chnawd;
A rhain ydyw dyddiau’th was ffyddlon, Dafydd
Yn codi it deml o fawl.
Rhain ydyw dyddiau’r cynhaeaf,
Y meysydd sy’n wyn drwy y byd,
A ni yw’r llafurwyr sydd yn dy winllan
Yn datgan yn glir Air yr Iôr.
(Grym Mawl 2: 131)
Robin Mark: These are the days of Elijah, Cyfieithiad Awdurdodedig: anad.
Hawlfraint © 1995 Daybreak Music Ltd.