logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Rhof i Ti’r Gogoniant

Pennill 1
Does dim clod imi
Am y gwynt dan fy mron
Fy unig ymffrost
Yw yn y gwaith a wnest Ti
Fe lifa ‘nghalon
Boed i’r cariad a ddaw
Dywallt o’th flaen Di nawr
Yn bersawr pêr

Corws
Rhof i Ti’r gogoniant
Yr holl ogoniant
Rhof i Ti’r gogoniant
Drachefn a thrachefn
Nid i fi mae moliant
Cans ei unig ddiben
Yw rhoi it ogoniant
Am byth ac amen, am byth ac amen

Pennill 2
Dim ond un enw
Sydd yn haeddu pob cân
A haedda’i barchu
a fy ngorau i gyd
Mae enw Iesu
Lawer uwch na phob un
Mae’r oll i Ti
O Mae’r oll i Ti

Corws

Tag
Am byth ac amen, O am byth ac amen

Pont
Ym mhob dim yr wyf
A phob peth a wnaf
Mae’r Gogoniant i gyd i Ti
Mae’r Gogoniant i gyd i Ti
(Pob gogoniant)

Pan rwy’n rhoddi mawl
A’th gydnabod Di
Mae’r Gogoniant i gyd i Ti
Mae’r Gogoniant i gyd i Ti
(Pob gogoniant)

Tag
Mae’r Gogoniant i gyd i Ti
Mae’r Gogoniant i gyd i Ti
Mae’r Gogoniant i gyd i Ti

Corws

Pont

Tag
Mae’r Gogoniant i gyd i Ti
Mae’r Gogoniant i gyd i Ti

Rhof i Ti’r Gogoniant
Give You the Glory (David Leonard, Ethan Hulse, Hope Darst)
Cyfieithiad awdurdodedig Arwel E Jones
© Fair Trade Global Songs; Hope For The Best Songs; Be Essential Songs; Hulse House Music; Shout It; Storied Journey Songs (Gwein. Essential Music Publishing LLC, Song Solutions)

Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.

PowerPoint
  • Rhys Llwyd,
  • November 6, 2024