logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Rhyfeddol Dduw a Chreadigol Un

Rhyfeddol Dduw a Chreadigol Un,
fe greaist ti’r ddynoliaeth ar dy lun
a’u gyrru i bob cwr o’r ddaear werdd
i’w llenwi’n frŵd â llên a llun a cherdd.
Drwy’n hiaith a’n gwreiddiau, drwy bob dysg a dawn,
gad i ni fyw bywydau hardd a llawn.

Golomen Sulgwyn gyda’th sanctaidd lef
cysegra eto’n hiaith i waith y nef.
Boed iddi gario neges Crist y Groes
i glustiau a chalonnau Cymry’n hoes
fel byddo’r clod a’r mawl i Dduw ein Rhi
yn atsain byth yn ei hacenion hi.

Fel gynt ym Mabel, rhwystra’r rhai sy’ â’u bryd
ar weld un iaith, un ffordd o fyw drwy’r byd.
Amddiffyn ieithoedd bach, fel blodau prin,
mor hardd, mor fregus yn y dyddiau hyn.
Gwna ni yn ddewr er lleied yw ein rhif
i ddal yn gadarn rhag y gwynt a’r llif.

O Grist, daw dydd pan fydd y cread maith
a phobl o bob cenedl, llwyth ac iaith
yn plygu glin gerbron dy orsedd wen
gan dy gyhoeddi’n Arglwydd ac yn ben
a ninnau yno’n rhan o’r nefol gôr
yn canu yn Gymraeg ‘mor fawr yw’r Iôr!’.

Casi M Jones
Tôn: Finlandia

Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.

PowerPoint
  • Rhys Llwyd,
  • March 5, 2025