logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Rhywbeth Newydd

Pennill 1
Mae ‘na adfywiad,
Yn awr, fan hyn
Mae awel newydd,
Dwi yn ei chlywed hi –
Rhywbeth gwirioneddol wych
Sy’n digwydd

Pennill 2
Mae ‘na wahaniaeth
Tu fewn imi
Mae’n broffwydoliaeth,
Mwy na ’nheimlad i –
Rhywbeth gwirioneddol gryf
Sy’n digwydd

Corws
Twyllwch plyga lawr i’r dydd,
Mynydd symud o fy ffordd
O fy noe dwi’n torri’n rhydd,
Mae gen i rywbeth newydd
Unrhyw gawr sydd o fy mlaen,
Mae fy ffydd yn fwy na ti
Creda fi pan dw i’n deud,
Mae gen i rywbeth newydd

Ol-Gorws
Mae gen i rywbeth newydd
Mae gen i rywbeth newydd
Mae gen i rywbeth newydd

Pennill 3
Mae ‘na eneiniad
I ddistrywio’r iau
Dwêd wrth gadarnle
‘Rhaid iti ’ngollwng i’ –
Rhywbeth gwirioneddol gryf
Sy’n digwydd

Pennill 4
Mae yma ryddid
Na phrofais i erioed
Mas o’r cysgodion
Yn llifo droston ni –
Rhywbeth gwirioneddol gryf
Sy’n digwydd

Corws
Ol-Gorws

Pont 1a
Cwmwl wela i
Mor drwm gan law –
Debyg bod adfywiad
Yn dod aton ni
Cwmwl wela i
Mor drwm gan law –
Fe ddaw iachawdwriaeth
Yn awr aton ni
Sain a glywaf fi –
Helaethrwydd y glaw –
Debyg bod rhyddid
Yn dod aton ni

Pont 1b
Sain a glywaf fi –
Helaethrwydd y glaw –
Debyg bod darpariaeth
Yn dod aton ni
Cwmwl wela i
Mor drwm gan law –
Debyg bod iachâd
Yn dod aton ni
Cwmwl wela i
Mor drwm gan law –
Debyg bod llawenydd
Yn dod aton ni

Tag
Yn dod aton ni
Yn dod aton ni
Yn dod aton ni
Yn dod aton ni

Pont 2
Meddwl newydd, calon newydd, ffydd ffrès
Gen i win newydd, gair nawr,
Gen i rywbeth newydd

Pont 3a
Cwmwl wela i
Mor drwm gan law –
Debyg bod adfywiad
Yn dod aton ni
Cwmwl wela i
Mor drwm gan law –
Fe ddaw iachawdwriaeth
Yn awr aton ni

Pont 3b
Sain a glywaf fi –
Helaethrwydd y glaw –
Debyg bod rhyddid
Yn dod aton ni
Sain a glywaf fi –
Helaethrwydd y glaw –
Debyg bod darpariaeth
Yn dod aton ni

Coda
Achos cwmwl wela i
Mor drwm gan law –
Debyg bod iachâd
Yn dod aton ni
Cwmwl wela i
Mor drwm gan law –
Debyg bod llawenydd
Yn dod aton ni

Rhywbeth Newydd
New Thing Coming (Dominique Jones, Joshua Holiday a Steven Furtick)
Cyfieithiad awdurdodedig Elise Gwilym ac Arwel E. Jones
© Doejones20; Elevation Worship Publishing2; Music by Elevation Worship Publishing (Gwein. Essential Music Publishing LLC)

Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.

PowerPoint
  • Aled Davies,
  • November 26, 2025