Rwyf d’angen
Fel gwlith mewn diffaethwch,
Fel iachusol law yr haf,
Arllwys di dy gariad pur yn lli’.
Rwy’n gweled bob tro dof atat ti
A gofyn am gael mwy O’th gariad tyner cu,
Fe’i rhoi i mi.
Fel afon yn llifo’n gref,
Fel tonnau’n treiglo daw dy hedd;
Tynn fi’n ddyfnach; rho weld dy wedd yn glir.
Arllwys Iôr, arllwyd Iôr,
Gariad pur yn lli.
(Grym Mawl 2: 59)
Chris Bowater: I need you, Cyfieithiad Awdurdodedig: Hywel Rhys Edwards
Hawlfraint © 1995 Sovereign Lifestyle Music
PowerPoint
Datganiad Hawlfraint
Mae gobaith.org yn darparu'r ffeiliau PowerPoint hyn o gyfieithiadau o ganeuon mawl Saesneg fel gwasanaeth rhad ac am ddim, ond amddiffynnir yr holl ganeuon gan ddeddf hawlfraint. Gall deiliaid Trwydded Hawlfraint Eglwysi lawrlwytho ac atgynhyrchu geiriau'r caneuon hyn yn unol ag amodau eu trwydded, a dylent gynnwys pob cân a ddefnyddir yn eu hadroddiad defnydd o ganeuon blynyddol. Os nad oes trwydded hawlfraint gennych bydd rhaid derbyn caniatâd gan berchennog pob cân y dymunwch ei lawrlwytho a/neu ei hatgynhyrchu. Am fanylion pellach am y Drwydded Hawlfraint Eglwysi ewch i www.ccli.com neu ffoniwch 01323 436103.