Byw ar ymyl arfaeth Duw bob dydd, Edrych ar yr addewidion oll. Ddim wedi bod ‘ffordd hon o’r blaen, Gall mai heddiw yw y dydd. Chwalu niwl y difaterwch sydd, Gwawriodd newydd ddydd disgwyliad cryf. Ddim wedi bod ‘ffordd hon o’r blaen, Gall mai heddiw yw y dydd. Mwy na holl bŵer fy hyder i […]
Cymer fi, Frenin nef, Cymer fi. Cymer fi, Frenin nef, Cymer fi. Fy nymuniad gwir Yw i’th Deyrnas di A’th ewyllys glir Fy meddiannu i. Chris A. Bowater: Reign in me, cyfieithiad awdurdodedig: Arfon Jones © 1985 Sovereign Lifestyle Music Ltd (Grym mawl 1: 141)
Dyma fi, rhoddaf fy hun yn llwyr, Cymer fi i’th was’naethu di. Dyma fi, rhoddaf fy hun yn llwyr, Cymer fi i’th was’naethu di. Cynhaeaf mawr sydd o’n cwmpas, Ond o, y gweithwyr sydd mor brin. Defnyddia fi yn awr yng ngwaith dy Deyrnas I alw eraill atat dy hun. Mae’n bryd i ni alw […]
Ger dy fron, yn dy gôl, Cariad fy Nuw’n cyffwrdd pob rhan. Closio’n nes, closio’n agos iawn. Rwyt ti yno byth, pan nad wyf yn gweld. Ger dy fron, yn dy gôl, Dyma’r lle dw’i angen bod. Ger dy fron, law yn llaw, Clywaf ti’n dweud ‘Dwi’n deall wir’ Gyda thi, fy nghâr, fy ffrind. […]
Iesu, rhown iti bob anrhydedd, Iesu, rhown iti yr holl glod. Uned dae’r a nef i ddyrchafu Yr enw sydd goruwch holl enwau’r rhod. O, plygwn bawb ein glin mewn gwir addoliad, Can’s plygu glin yw’n dyled ger ei fron. Cyffeswn bawb yn awr Ef yw’r Crist, Ef yw Mab Duw, Frenin Iôr, clodforwn di […]
Oen ein Duw, Sanctaidd Un, Iesu Grist, Fab y dyn, Hoeliwyd ef yn fy lle ar groes; Er mwyn i mi, yr euog un, Brofi y gwaed sydd eto’n glanhau, Yn iacháu, yn maddau. Fe’th ddyrchafaf di, Iesu fy aberth i; Ti yw ’Mhrynwr i, fy Arglwydd, ti yw Nuw. Fe’th ddyrchafaf di, teilwng ydwyt […]
Rwyf d’angen Fel gwlith mewn diffaethwch, Fel iachusol law yr haf, Arllwys di dy gariad pur yn lli’. Rwy’n gweled bob tro dof atat ti A gofyn am gael mwy O’th gariad tyner cu, Fe’i rhoi i mi. Fel afon yn llifo’n gref, Fel tonnau’n treiglo daw dy hedd; Tynn fi’n ddyfnach; rho weld dy […]