Pennill 1
Pan fûm ar goll, ar ‘mhen fy hun
Dy gwmni oedd fy nghartref i
Yno roet a Ti yma nawr
Roedd gobaith im mewn da neu ddrwg
Ni wnest Ti byth fy ngadael i
O hyd yn dda a Ti’n dda o hyd
Corws
Rwy’n dyst i’th ffyddlondeb Di
(Gweld) dy fywyd Di ynof fi
O, rwy’n tywallt fy mawl i Ti
Ti’n deilwng, Dduw Ti’n deilwng o’r cyfan sydd
Ni fetha d’addewid Di
Dyna hanes fy mywyd i
O, rwy’n tywallt fy mawl i Ti
Ti’n deilwng, Dduw Ti’n deilwng o’r cyfan sydd
Pennill 2
O orsedd nef, gan ddewis croes
Yn ildio’th hun i’n hachub ni
Gwaredwr ddoe, yn gwared nawr
Ni ddaeth y bedd â hyn i ben
Nag uffern chwaith; rwy’n byw yn awr
O, Fe godaist Ti a Ti’n codi nawr
O, Fe godaist Ti a Ti’n codi nawr
Corws
Pont (X2)
Ti’n dda ac rwy’n dyst i hyn
Ti’n gryf ac rwy’n dyst i hyn
Ti’n gyson, rwy’n dyst i hyn
Ac fe wn yn iawn caf weld hyn drachefn a thrachefn
Ti’n caru, rwy’n dyst i hyn
Ti’n gwella, rwy’n dyst i hyn
Ti’n achub, rwy’n dyst i hyn
Ac fe wn yn iawn caf weld hyn drachefn a thrachefn
Corws
Pont
I’r toredig, rwy’n dyst i hyn
I’r briwedig, rwy’n dyst i hyn
I’r colledig, fe dystiaf hyn
Fe gyhoeddaf i
Mynegaf yr hyn welais i
I fy nheulu, rwy’n dyst i hyn
I fy ninas, rwy’n dyst i hun
I’r cenhedloedd, rwy’n dyst i hyn
Fe gyhoeddaf i
Mynegaf yr hyn welais i
Corws
Rwy’n Dyst i Hyn
I’ve Witnessed It (Andrew Holt, Austin Davis a Melodie Malone)
Cyfieithiad awdurdodedig gan Arwel E. Jones
Hawlfraint © 2023 A L K D Music (BMI) (gwein. CapitolCMGPublishing.com mewn partneriaeth â WatershedMusicPublishing.com) / Melodie Malone Designee () TBCO Publishing (BMI) Andrew Holt Music Publishing (BMI) (gwein. Gan Capitol CMG Publishing). Cedwir pob hawl. Defnyddir trwy ganiatâd.
Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.
PowerPoint