O canwch i’r Arglwydd gân newydd, ei seintiau,
Ym mrenin a chreuwr y byd, llawenhewch!
A molwch ei enw â dawnsio a chanu,
 thympan a thelyn addolwch, mwynhewch!
Oherwydd mae Duw wrth ei fodd gyda’i bobl,
Mae’n rhoi gwaredigaeth i’r eiddil a’r gwan,
O canwch i’r Arglwydd gân newydd, ei seintiau,
Yng nghanol ei holl bobl ffyddlon, rhowch gân.
O canwch i’r Arglwydd gân newydd, ei seintiau,
O bydded i holl blant ein Duw lawenhau
A dathlu ogoniant ein Duw mewn gorfoledd
A chanu yn llawen fin nos ar eu gwlâu.
 mawl yn eu genau, a chleddyf daufiniog
Fe rwymwyd y gelyn mewn cadwynau cry’,
O canwch i’r Arglwydd gân newydd, ei seintiau,
Ef yw ein gogoniant: o molwch Duw fry!
Geiriau: Salm 149, addas. Cass Meurig
Tôn: Llwyn Onn (tradd)