logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Tro dy olwg ar Iesu

Pennill 1
O, enaid, a wyt ti’n flinderog?
Y llwybr yn dywyll o’th flaen?
Mae goleuni yn ŵyneb y Ceidwad,
A bywyd mor llawn ac mor lân

Cytgan
Tro dy olwg ar Iesu,
Ac edrych i’w ŵyneb yn llawn;
A holl bethau y byd,
Fe ddiflannant i gyd
Yng ngoleuni Ei gariad a’i ddawn.

Pennill 2
Drwy angau i fywyd tragwyddol
Dilynnwn ein Harglwydd, mor fawr;
Trwy Grist r’ŷm yn fwy na choncwerwyr,
All pechod mo’n cyffwrdd yn awr.

Pennill 3
Cred ynddo – Ei Air sydd yn sicir –
Daw popeth yn fuan i’w le;
A dwed wrth y byd sydd yn marw
Am y ffordd a agorwyd i’r ne’.

Tro dy olwg ar Iesu
Turn your eyes upon Jesus (Helen Howarth Lemmel)
Efelychiad Dafydd M Job
Allan o hawlfraint

Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.

PowerPoint
  • Rhys Llwyd,
  • November 6, 2024