Trosom ni, gwaedaist ti.
Tro’n calonnau ni at eraill,
Trwy dy gariad di:
Clwyfwyd rhai gan drais a geiriau,
Rho dy ras yn lli.
Tro’n calonnau ni ’wrth ddicter
At dy heddwch pur:
Wedi gwaedu, buost farw
Er mwyn difa cur.
Tro galonnau’r cenedlaethau
Fel yr unem ni
Yn bartneriaid yn dy Deyrnas
Wrth in weithio i Ti.
Gan dy fod ti wedi maddau,
Dyl’sem ni’r un modd
Dderbyn eraill mewn maddeuant,
Rhoi’n calonnau’n rhodd.
Trosom ni, gwaedaist ti,
Una ni ynot ti.
Graham Kendrick: Turn our hearts, cyfieithiad awdurdodedig: Gwion Hallam
© 1996 Make Way Music
(Grym Mawl 2: 138)
PowerPoint
Datganiad Hawlfraint
Mae gobaith.org yn darparu'r ffeiliau PowerPoint hyn o gyfieithiadau o ganeuon mawl Saesneg fel gwasanaeth rhad ac am ddim, ond amddiffynnir yr holl ganeuon gan ddeddf hawlfraint. Gall deiliaid Trwydded Hawlfraint Eglwysi lawrlwytho ac atgynhyrchu geiriau'r caneuon hyn yn unol ag amodau eu trwydded, a dylent gynnwys pob cân a ddefnyddir yn eu hadroddiad defnydd o ganeuon blynyddol. Os nad oes trwydded hawlfraint gennych bydd rhaid derbyn caniatâd gan berchennog pob cân y dymunwch ei lawrlwytho a/neu ei hatgynhyrchu. Am fanylion pellach am y Drwydded Hawlfraint Eglwysi ewch i www.ccli.com neu ffoniwch 01323 436103.